Penderfynyddion Cymdeithasol ac Economaidd tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol llewyrchus i fenywod yng Nghymru
Mawrth 8, 2024
Wrth fynd ar drywydd iechyd a llesiant pobl Cymru, rhaid i elfennau sylfaenol amrywiol fod wediâu sefydluân gadarn. Mae’r elfennau hyn, y cyfeirir atynt yn aml yn flociau adeiladu iechyd, yn cwmpasu hanfodion megis tai diogel, cyflogaeth ystyrlon, sefydlogrwydd ariannol, plentyndod diogel, a chysylltiadau cymunedol cadarn.
Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan hanfodol o’r ymdrechion am economi ffyniannus a modern sy’n gallu sicrhau twf cynaliadwy a chynhwysol. Ei arwyddocâd yw galluogi dynion a merched i gyfrannuân llawn ar draws amrywiol agweddau ar fywyd, boed gartref, yn y gweithlu neu mewn ymrwymiadau cyhoeddus, a thrwy hynny gyfoethogi cymdeithasau ac economĂŻau ar raddfa ehangach. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau yn bodoli ar draws meysydd cymdeithasol ac economaidd, gan chwyddoâr anghydraddoldebau presennol ac effeithio’n sylweddol ar brofiadau bywyd yn gyffredinol.

Cefndir a chyd-destun anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yng Nghymru
Mae menywod, merched, a’r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni (AFAB) yn cyfrif am 50% o boblogaeth Cymru. Fodd bynnag, mae tystiolaeth wedi dangos bod menywod yng Nghymru yn wynebu heriau syân dylanwaduân uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar eu hiechyd. Wrth drafod anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, dawâr cysyniad o groestoriadedd yn berthnasol wrth iddo amlygu sut mae gwahanol hunaniaethauân croesi ei gilydd i lunio cysylltiadau cymdeithasol a phrofiadau unigol. Gall hil, dosbarth, oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth rywiol neu hunaniaethau eraill groesi ei gilydd i ddwysĂĄu anghydraddoldebau iechyd. Mae tystiolaeth wedi dangos bod grwpiau du ac ethnig leiafrifol a menywod anabl ac unig riant yn wynebu anghydraddoldebau iechyd llawer gwaeth sy’n gysylltiedig â statws cymdeithasol ac economaidd.
Mae Cymruân wynebu anghydraddoldebau iechyd syân ymwneud â rhywedd, gan gynnwys tlodi, anghydraddoldebau iechyd ymysg mamau, trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mynediad anghyfartal at wasanaethau gofal iechyd, ac effaith y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Er bod dynion hefyd yn wynebu trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol, maeân effeithioân anghymesur ar fenywod a merched. Mae amcangyfrifon yn dangos bod 1.4 miliwn o fenywod 16-59 oed wedi profi achosion o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfartaledd profodd 1 o bob 5 o fenywod 16 â 59 oed ryw fath o drais rhywiol.
Er bod cyfraddau cyfranogi menywod yn y llafurlu wedi symud yn nes at raiâr dynion dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae menywod yn dal yn llai tebygol o fod yn y gweithlu ac yn aml yn profi ansawdd swyddi is. Mae menywod sydd â swyddi yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser, am gyflog is, ac mewn sectorau llai proffidiol. Mae menywod hefyd yn llai tebygol o symud ymlaen i swyddi rheoli, ac yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu yn y gweithle. Hefyd, yn Ă´l adroddiad ar dlodi yng Nghymru, maeâr bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn parhau i fod yn 11.3% ac mae dadansoddiad o dueddiadau hefyd wedi dangos na fu unrhyw ostyngiad ym maint cyflogau isel yng Nghymru ers degawd, a bod cyfran y swyddi ar gyflog isel yn parhau i fod tua 25%. Gwyddom fod gwaith teg yn benderfynydd allweddol mewn perthynas â iechyd.
Yn Ă´l y data diweddaraf sydd ar gael o tua 90 o wledydd mae menywod, ar gyfartaledd, yn treulio tua tair gwaith yr amser y mae dynion yn ei wneud bob dydd mewn gofal di-dâl a gwaith domestig. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau di-dâl, megis gofalu am blant a’r henoed, a thasgau domestig. Gall y baich dwbl hwn o reoli bywyd gwaith a chartref effeithio ar iechyd a llesiant merched.
Maeâr argyfwng costau byw aâr pandemig Covid-19 yn golygu bod y materion a grybwyllwyd yn gwaethygu ymhellach ac yr effeithiwyd yn anghymesur ar fenywod yng Nghymru aâr DU. Maeân werth nodi bod tlodi ac incwm wedyn yn cael effaith ar yr unigolyn, teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol. Gwelir yr effeithiau trwy ostyngiad mewn disgwyliad oes, cost gwasanaethau iechyd, mynediad at brydau iach, iechyd meddwl gwaeth ac ymddygiadau iechyd negyddol.
Sut gallwn ni hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau?
Mae mynd iâr afael ââr heriau hyn yn gofyn am ddull cynhwysfawr syân integreiddio polisĂŻau syân gynhwysol o ran rhywedd a chyllidebu syân ymateb i rywedd. Mae polisĂŻau sy’n ymateb i rywedd yn offeryn defnyddiol ar gyfer dod â phryderon menywod a merched yn rhan o bolisi prif ffrwd a gweinyddiaeth gyhoeddus. Anelir polisĂŻau o’r fath at gysylltu gofynion polisi a chyfreithiol ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau â dyrannu adnoddau. Maent yn cwmpasu nid yn unig fentrau sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar deulu a gofal, ond hefyd fesurau ehangach sy’n ymwneud â chynnal incwm, lleihau tlodi, a rheoleiddio’r farchnad lafur.
Gall polisĂŻau syân cysoni bywyd gwaith a bywyd teuluol, yn enwedig drwy addysg gynnar a gwasanaethau gofal, helpu i sicrhau bod y sefyllfaân gyfartal trwy wneud iawn am anfanteision yn y cartref, caniatĂĄu i fenywod symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ac osgoi trosglwyddo anfanteision i blant. Gallant hefyd gefnogi cyfranogiad rhieni yn y farchnad lafur a lliniaru effeithiau andwyol caledi ariannol ar ganlyniadau plant yn y dyfodol. Mae tystiolaeth ymchwil o 80 o wledydd wedi dangos bod gan gyllidebu syân ymateb i rywedd y potensial i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb os rhoddir y ffactorau canlynol ar gyfer llwyddiant ar waith: cydnabod annhegwch rhywedd, ymrwymiad a chefnogaeth gan y rhai syân gwneud penderfyniadau, ymgorffori cyllidebu syân ymateb i rywedd i fframwaith cyfreithiol gwlad, argaeledd data wedi’u dadgyfuno o ran rhywedd ac yn olaf, cefnogaeth sefydliadau y tu allan i’r llywodraeth.
At hynny, gall mabwysiadu fframwaith Economi Llesiant roi mewnwelediadau gwerthfawr i lunwyr polisi sicrhau polisĂŻau i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol, gan gwmpasu llesiant a thwf economaidd. Drwy unioni ymdrechion i hyrwyddo tegwch rhywedd ag amcanion economaidd-gymdeithasol ehangach, gall Cymru lunio llwybr tuag at ddyfodol iachach, mwy llewyrchus iâw holl drigolion.
I gydnabod Nod 5 y Nodau Datblygu Cynaliadwy i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso pob menyw a merch, mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn datblygu, casglu a rhannu gwybodaeth ac offer ar y ffordd orau i fuddsoddi mewn gwell iechyd, lleihau anghydraddoldebau, a chreu a chryfhau cymunedau cadarnach yng Nghymru, yn Ewrop ac yn fyd-eang. Mae’r weminar ddiweddar ar y pwnc hwn a briff polisi ar BolisĂŻau Cynhwysol o ran Rhywedd a’r Argyfwng Costau Byw yn dystiolaeth o hyn.
Cyfeiriadau
Llywodraeth Cymru. (2022). Y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched [HTML] | LLYW.CYMRU. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru: beth sydd wedi newid: (senedd.cymru)
Economies of well being OECD.pdf
OECD (2018), Is the Last Mile the Longest? Economic Gains from Gender Equality in Nordic Countries, OECD Publishing, Paris, https://dx.doi.org/10.1787/9789264300040-en.
OECD (2015), In It Together: Why Less Inequality Benefits All, OECD Publishing, Paris, https://dx.doi.org/10.1787/9789264235120-en.
Rubin, M.M., & Bartle, J.R. (2023). Genderâresponsive budgeting: a budget reform to address gender inequity. Public Administration, 101(2), 391-405.